Coed, Celf a Lles gyda Mr Kobo (Pobl Ifanc)

13:00, 8 Chwefror

Mae gofyn i’r grŵp mynychu’r ddau sesiwn (08/02 & 15/02)

Cyfres o weithdai sy’n cyfuno creadigrwydd, natur a lles.

Bydd y sesiynau’n archwilio’r defnydd o ddeunyddiau naturiol mewn celf, gan gynnig profiad therapiwtig ac ymgysylltiol.

Byddwn ni’n canolbwyntio ar ddysgu ac arbrofi gyda Pyrograffeg gyda ffurfiau celf gysylltiedig. Bydd pob sesiwn yn cyflwyno ymarferion creadigol gwahanol sy’n hyrwyddo lles, annog hunan-fynegiant, a datblygu cysylltiad â natur.

Bydd yr ymarferion yn cynnwys:
– creu mandalau, patrymau a ddefnyddir yn aml ar gyfer meddwlgarwch.
– defnyddio pyrograffeg i greu totemau anifeiliaid, sydd yn symboleiddio nodweddion personol.
– creu llyfrau gyda deunyddiau naturiol i’w ddefnyddio ar gyfer myfyrio, ysgrifennu, neu dynnu lluniau.

Addas i bobl ifanc oed ysgol uwchradd.
I archebu lle cysyltwch gyda gofod@ogwen.org