Ymunwch â Non Mitchell, Crefftwraig yn Amgueddfa Wlân Cymru, am Gyflwyniad i Nyddu Gwlân.
Bydd y cwrs undydd yn cynnwys didoli, cribo a chyfuno’r gwlân, cyn rhoi cynnig ar wahanol ddulliau o nyddu, gan ddefnyddio’r gwerthyd a chogail, troellau nyddu a gwehyddu ar wŷdd peg i greu pad clustog bach i fynd adref gyda chi.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â’n bwytai a chaffis ar y safle.
- Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
- Cynhelir y cwrs yn ddwyieithog.
- Cyfyngiad Oedran:16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
- Lleoliad Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren.
- Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Mae’r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i’ch ystyried fan hyn.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi’n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.