Defnyddiwch Paracord a rhywfaint o waith clymu clyfar i wneud “Pacer Beads” a all ein helpu i gadw golwg ar y pellteroedd rydyn ni wedi’u teithio trwy gyfrif y camau. Byddwn hefyd yn archwilio sut i adnabod grid cyfeirnod ar gyfer lleoliad gan ddefnyddio map a theclyn torri laser DIY o’r enw “crwydryn”. Gweithdy gyda Jo Hinchliffe.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Gofod@ogwen.org.