Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy unigryw gyda Gwilym Dwyfor – cyn-olygydd Y Selar – lle byddwch chi’n dysgu sut i ysgrifennu adolygiadau cerddoriaeth o safon.
Digwyddiad arbennig i bobl sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth a chyfle i leisio’ch barn!
Diolch am gefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru a Cymru Greadigol, sy’n ein galluogi i gynnal y digwyddiadau yma’n rhad ac am ddim, yn rhan o’n prosiect Arfogi Lleisiau Newydd