Ymunwch â ni ym Mhlas yn Rhiw i fwynhau’r arddangosfa eirlysiau wrth i chi grwydro’r ardd a’r coetir rhwng 1-2 a 8-9 Chwefror. Yr eirlysiau disglair yw’r arwydd cyntaf bod y gwanwyn ar ei ffordd ym Mhlas yn Rhiw. Mae’r blodau gwyn cain hyn, sy’n swatio ymhlith y coetir hynafol ac yn arllwys ar draws yr ardd, yn creu golygfa hudolus yr adeg hon o’r flwyddyn.Bydd yr ardd, coetir a’r caffi ar agor am y 2 penwythnos felly gwisgwch yn gynnes, cydiwch yn eich dillad dal dŵr a gwnewch y mwyaf o’r arddangosfa odidog o eirlysiau.