Tyrchu Sain (Sesiwn Storiel )
Sesiwn y bore Sgwrs gyda Don Leisure a Dafydd Iwan 11.30 -12.30
Sesiwn y Pnawn Parti gwrando Tyrchu Sain 14:00 -15:30
I dathlu rhyddhad albwm newydd y cynhyrchydd o Gaerdydd Don Leisure mae Storiel, Amgueddfa Gwynedd yn hynod falch o gyflwyno diwrnod o sgyrsiau fydd yn dathlu record syn defnyddio recordiau o’r label hanesyddol. Recordiau Sain.
Gan ddefnyddio traciau o rhai o albymau a senglau mwyaf cyfarwydd o archifau Sain mae Don Leisure wedi crefftio albwm o ganeuon newydd syn defnyddio allbwn Sain o stiwdio Rockfield, Stiwdio Stacey Road a stiwdio Gwern afalau yn Gwynedd. Gan ddefnyddio pytiau a rhannau o ganeuon gan artistiaid fel Meic Stevens, Brân, Sidan a Shwn.
Bydd y sgwrs cyntaf yn drafodaeth gyda Jamal Ali gyda un o sefydlwyr ac un o brif artistiaid label Sain , Dafydd Iwan . Bydd y sgwrs hynod ddiddorol yma yn ymdrin a daith cerddorol trwy un o labeli mwyaf adnabyddus Cymru a trafod pam hefo un o sefydlwyr y label pam fod Sain yn mynd o nerth i nerth ac ym parhau i fod ‘Yma o Hyd’.
Bydd yr ail sgwrs yn delio gyda Process creadigol o greu cyfansoddion newydd wrth i Jamal Ali ddewis rhoi o albwms yn ôl gasgliad Sain wrth iddo edrych am y ‘bit perffaith’. Gan drafod hefo Rhys Lloyd Jones Swyddog Ymgysylltu Storiel gawn drafod ar y broses creadigol o greu cyfansoddion newydd o ganeuon y gorffennol. Bydd y trafodaeth yma yn cael ei ddilyn gan parti gwrando wrth i Don Leisure gyflwyno y caneuon yma (gyda cyfraniadau lleisiol gan Gruff Rhys a Carwyn Ellis) ochr yn ochr hefo caneuon gwreiddiol