Bore Siarad Cymraeg (lefel ganolradd ac uwch)
Dewch i ymarfer eich Cymraeg a gwrando ar sgwrs gan y Parch. Emyr James ar y testun ‘Addunedau’, yn Hyb Rhiwbina, Pen-y-dre, Rhiwbina, Caerdydd, CF14 6EH, fore Sadwrn, 11 Ionawr 2025, am 10.30am.
Yn rhad ac am ddim. Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw.
Dan nawdd Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd.
Croeso cynnes i bawb.