Dan Sylw / In Focus: Gwenny Griffiths

13:00, 22 Ionawr

Am ddim

Erbyn hyn, yn dilyn gwaith ditectif manwl, mae Mari Beynon Owen wedi darganfod toreth o’i phaentiadau mewn nifer o gasgliadau preifat; mae hi wedi cofnodi dros hanner cant o luniau mewn catalogau arddangosfeydd ar draws Prydain ac yn Ewrop, ac wedi cael mynediad i’w harchif teuluol.

Bydd Mari’n olrhain hanes bywyd Gwenny a’i thaith greadigol, o fwrlwm Abertawe ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i Lundain, Paris a’r Riviera. Wrth gyflwyno rhai o drysorau coll yr arlunydd arbennig hon, bydd yn archwilio’r rhesymau pam ei bod hi a’i gwaith mor anhysbys.

Mae un o weithiau Gwenny, Landscape near Pegomas, Alpes-Maritimes (1934) ar ddangos ar hyn o’r bryd yn arddangosfa Dim Celf Gymreig, wedi ei churadu gan Peter Lord, sy’n datgelu stori am gyfoeth diwylliant gweledol Cymru yn ogystal â’i hanes cymdeithasol a gwleidyddol.

Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu ar y pryd.