Ymunwch am daith gerdded yng Ngwm Idwal efo swyddog Prosiect Awyr Dywyll Parc Cenedlaethol Eryri a swyddog Partneriaeth Cwm Idwal.
Byddwn yn cwrdd wrth ganolfan groeso Gwarcchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal wrth iddi nosi cyn dilyn y llwybr o amgylch Llyn Idwal gan stopio o bryd i’w gilydd i ddysgu am y sêr. Cyfle gwych i brofi mynyddoedd Eryri mewn gwedd wahannol a mwynhau llonyddwch y nôs.
Fe fyddwn yn cerdded yn hamddenol gyda’r daith 4km yn parau tua 2 awr. Awgrymwn i chi ddod a dillad cynnes ag esgidiau addas gyda chi. Dewch a flach lamp os oes gennych un – ond bydd digon o rai i’w menthyg os oes angen.
Mae llefydd yn brin ar y diath yma felly cofiwch archebu lle.
I archebu lle, ebostiwch: rhys.wheldonroberts@nationaltrust.org.uk (07977 596517)