Taith Gerdded: Cestyll a Rhaeadrau

10:00, 2 Chwefror

Dydd Sul, Chwefror 2il 2025*

Cestyll a Rhaeadrau – Castell Newydd Emlyn i Genarth
Taith Linellol 4.5 milltir (gyda dewis 3 milltir)

COFRESTRU O FLAEN LLAW YN HANFODOL – CYSYLLTWCH Â CHRIS
07881981709 | 01570 434506  |  info@teifivalleytrail.wales

 

Cyfarfod am 10yb ym Maes Parcio Mart Castell Newydd Emlyn, SA38 9BA (Tâl parcio £1.70)

Heddiw, byddwn yn cerdded ar ochr ddeheuol Afon Teifi o Gastell Newydd Emlyn i Genarth. Ar ôl cinio, byddwn yn dilyn llwybr cylchol ar lan ogleddol yr afon gan orffen ar lwybr pren Cenarth.

Cludiant bws yn cael ei ddarparu yn ôl i GNE i bawb (£3 y teithiwr).

Sori dim cwn. 

Dewch â dillad glaw, esgidiau cryf a chinio gyda chi.  
Cynnigir te/coffi am ddim drwy garedigrwydd Eglwys Sant Llawddog yng Nghenarth a Theatr yr Attic ar y diwedd yn CNE.  

*Mae’r daith gerdded hon yn cymryd lle’r un a hysbysebwyd yn wreiddiol ar gyfer Ionawr 26ain.