Taith Gerdded Gylchol

10:00, 26 Ionawr

Mae Cymdeithas Taith Dyffryn Teifi yn cynnal cyfres o deithiau cerdded rhad ac am ddim ar hyd y llwybr a dyma fanylion y daith gerdded nesaf.

Cestyll a Rhaeadrau – Castell Newydd Emlyn i Genarth
Taith Gerdded Gylchol tua 6 milltir (opsiwn 3 milltir hefyd) 

Dydd Sul, Ionawr 26ain  2025

Cyfarfod am 10yb ym Maes Parcio Mart Castell Newydd Emlyn, SA38 9BA (Tâl parcio £1.70) 

Byddwn yn cerdded ar lannau gogleddol a deheuol Afon Teifi heddiw o Gastell Newydd Emlyn i Genarth ac yn ôl trwy goetir, ar hyd llwybrau a ffyrdd tawel.  Opsiwn ar gyfer taith gerdded 3 milltir fyrrach gyda throsglwyddiad bws yn ôl i CNE (£3 y teithiwr). 

Cynnigir te/coffi am ddim drwy garedigrwydd Eglwys Sant Llawddog yng Nghenarth a Theatr yr Attic ar y diwedd yn CNE.   

Dim tâl am gerdded. Sori dim cwn.  Dewch â dillad glaw, esgidiau cryf a chinio gyda chi.