WYTHNOS BRECWAST FFERMDY UNDEB AMAETHWYR CYMRU 2025
Cyfle gwych i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru a Chronfa Sioe Fawr Sir Gaernarfon 2025.
Gwahoddwn chi trwy garedigrwydd Alun ac Anita Thomas i frecwasta gyda ni ar fferm Ty’n Hendre, Tal-y-bont, Bangor. Mae’n un o 6 o leoliadau ar draws yr hen Sir Gaernarfon ble fydd teuluoedd fferm yn paratoi brecwast llawn i cyn gymaint o bobl a phosib, achlysur sydd yn cymryd lle ers dros 15 mlynedd bellach. Rydym eisioes wedi codi dros £78,000 yn ystod yr wythnos hon dros y blynyddoedd i gefnogi achosion lleol a chenedlaethol. Mae’n gyfle gwych i chi flasu cynnyrch o’r sir, cyfrannu yn hael at elusennau gwerth chweil, ac hefyd i gymdeithasu gyda phobl na fuasech fel arfer yn rhannu’r bwrdd brecwast gyda nhw, a thrafod #AmaethamByth!!! Mae hyn i gyd am £12.50 gyda’r elw i gyd yn cael ei rannu rhwng yr elusennau. Mae nifer o fusnesau lleol wedi cytuno i roi bwyd i ni ac rydym yn gwerthfawrogi hynny yn fawr iawn. Bydd rhestrau o’r busnesau yn cael eu harddangos ym mhob lleoliad.
Dydd Llun – 20/01/25 – Ty’n Hendre, Tal-y-bont, Bangor, LL57 3YP
Os hoffech fynychu, a wnewch chi ffonio Anita Thomas ar 07748 862812 gan roi syniad o’r amser y byddwch yn galw i fewn, unrhyw bryd rhwng 8:00 ac 11:30. Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol eich hun gallwch yrru cynrychiloydd ar eich rhan.
Diolchwn ymlaen llaw am eich cefnogaeth.