Wythnos Brecwastau Undeb Amaethwyr Cymru 2025 – Plas Gwyn, Y Ffôr

08:00, 21 Ionawr

£12.50

WYTHNOS BRECWAST FFERMDY UNDEB AMAETHWYR CYMRU 2025
Cyfle gwych i gefnogi Cronfa Sioe Fawr Sir Gaernarfon 2025 a Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri
Gwahoddwn chi trwy garedigrwydd Evan a Kit Ellis i frecwasta gyda ni yn Plas Gwyn, Y Ffôr . Mae’n un o 6 o leoliadau ar draws yr hen Sir Gaernarfon ble fydd teuluoedd fferm yn paratoi brecwast llawn i cyn gymaint o bobl a phosib, achlysur sydd yn cymryd lle ers dros 15 mlynedd bellach. Rydym eisioes wedi codi dros £78,000 yn ystod yr wythnos hon dros y blynyddoedd i gefnogi achosion lleol a chenedlaethol. Mae’n gyfle gwych i chi flasu cynnyrch o’r sir, cyfrannu yn hael at elusennau gwerth chweil, ac hefyd i gymdeithasu gyda phobl na fuasech fel arfer yn rhannu’r bwrdd brecwast gyda nhw, a thrafod #AmaethamByth!!! Mae hyn i gyd am £12.50 gyda’r elw i gyd yn cael ei rannu rhwng yr elusennau. Mae nifer o fusnesau lleol wedi cytuno i roi bwyd i ni ac rydym yn gwerthfawrogi hynny yn fawr iawn. Bydd rhestrau o’r busnesau yn cael eu harddangos ym mhob lleoliad.
Dydd Mawrth 21.01.25 Plas Gwyn, y Ffôr
Os hoffech fynychu, a wnewch chi ffonio Evan a Kit Ellis 01758 719882 / 07772 041046 gan roi syniad o’r amser y byddwch yn galw i fewn, unrhyw bryd rhwng 8:00 ac 11:30. Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol eich hun gallwch yrru cynrychiloydd ar eich rhan.
Diolchwn ymlaen llaw am eich cefnogaeth.