Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at barhau i ddathlu’r daucanmlwyddiant drwy gynnal cyngerdd mawreddog yng nghwmni myfyrwyr, cyn fyfyrwyr a ffrindiau’r Brifysgol.
Bydd y gyngerdd hon, a gynhelir yn Neuadd y Celfyddydau ar Gampws Llambed nos Sadwrn, Tachwedd 26ain yn cynnwys perfformiad cyntaf o Symffoni Rhif 1 ‘Gorau Awen Gwirionedd’ a gyfansoddwyd gan Eilir Owen Griffiths gyda libretto gan Dr Grahame Davies.
Bydd nifer o gyn fyfyrwyr o’r Brifysgol yn perfformio yn y gyngerdd gan gynnwys y tenor Rhys Meirion, yr actor a’r canwr Huw Euron, a sêr o Welsh of the West End, Luke McCall a Glain Rhys.
Yn ogystal, bydd rhai o fyfyrwyr presennol y Brifysgol o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yn perfformio, ynghyd â Chôr CF1 y mae Eilir yn ei harwain, sy’n dathlu ugain mlynedd eleni; a Chôr Caerdydd sydd hefyd yn dathlu carreg filltir o 30 mlynedd eleni, ac fe fydd y British Sinfonietta yn cyfeilio.