Sioe Y Groeslon

14:00, 24 Awst

£2 i oedolion, plant am ddim

Cynhelir 82ain arddangosfa flynyddol o flodau, llysiau, celf a chrefft yn Y Groeslon eleni, a hynny ar ddydd Sadwrn 24ain o Awst.

Cystadlu ar agor i drigolion Y Groeslon, Carmel, Fron, Llandwrog a rhandir y Groeslon. (Am fanylion y rhaglen ewch i fan hyn.)

Bydd y drysau yn agor am 2 o’r gloch y pnawn, a phris mynediad yn £2 i oedolion a phlant am ddim.

Dewch yn llu!