Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Gwenyn Mêl

13:30, 16 Ionawr

Am Ddim

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wrth i’n Gwenynwr gyflwyno’r cychod sy’n galw’r Amgueddfa’n gartref.

Ar ôl hyn bydd weithgaredd crefft ysgafn.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
  • Cyfle i grwydro a mwynhau un o’r orielau
  • Cyfle i fwyhau gweithgaredd crefft /creadigol ysgafn
  • Diod gynnes a sgwrs

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae’r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth.

Mae’r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy’n byw gyda dementia ac sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.

Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde. Neu gallwch chi ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio’n broblem.

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.