Hoffech chi ddefnyddio eich breuddwydion i greu gwaith celf? Ewch ati i ddweud wrth y gwyddonydd cwsg Mark Blagrove am eich breuddwyd a’i baentio gyda’r artist Julia Lockheart. Byddwch yn dysgu pam rydyn ni’n breuddwydio a’r wyddoniaeth sy’n sail i freuddwydion. Bydd eich paentiad yn cael ei daflunio ar y sgrîn fawr i bawb ei weld!
1 tocyn i bob teulu