Canmlwyddiant Neuadd Y Groeslon

14:00, 10 Tachwedd 2022

Mae ’na ddyddiad newydd i ddathliadau canmlwyddiant Neuadd Bentref y Groeslon – dydd Iau’r 10fed o Dachwedd, 2022. Dorwch o i lawr yn eich dyddiaduron!

Mi fydd hi’n ddiwrnod llawn dop o ddathlu – arddangosfa o hanes y Neuadd rhwng 2 o’r gloch a 6 o’r gloch y prynhawn, a chyngerdd o ddoniau lleol gyda’r nos, i ddechrau am 7 o’r gloch yr hwyr. Tocynnau i’w prynu ar y drws. £2 i oedolion, plant am ddim.

Croeso mawr i bawb, ac edrychwn ymlaen i ddathlu gyda chi!