Chi, Fi a Deallusrwydd Artiffisial: Yr hyn mae eich chwiliadau ar y rhyngrwyd yn ei ddweud am sut rydych chi’n teimlo

15:00, 5 Tachwedd 2022

Am ddim

Roedd Pandemig Covid-19 yn gyfle annisgwyl i ddeall sut mae ergyd byd-eang dirybudd yn newid chwiliadau ar-lein pobl wrth iddynt chwilio am wybodaeth am sut maent yn teimlo. Yn y sgwrs hon, byddwch yn canfod sut a pham rydym yn cyfuno Deallusrwydd Artiffisial, Cloddio Data a Seicoleg i archwilio sut mae pobl yn deall ac yn ymateb i sefyllfaoedd cymhleth a deinamig. Byddwn yn dangos i chi sut rydym yn defnyddio gwybodaeth ffynhonnell agored i ddatgelu sut mae technoleg ac argyfwng wedi newid sut rydym yn mynegi ein hemosiynau ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn chwiliadau ar y rhyngrwyd.

 Oed 12+