Sut brofiad fyddai symud ar y blaned Mawrth? Allwch chi ddawnsio o amgylch Sadwrn? Ymunwch â chwmni Dawns FLUX mewn gweithdy deinamig fydd yn archwilio’r planedau sydd yng Nghysawd yr Haul a sut maen nhw’n symud. Paratowch, ofodwyr y dyfodol, am hwyl a sbri, gemau a dawnsio arallfydol. Nodwch mai gweithdy ffisegol yw hwn ac rydym yn croesawu pobl o bob gallu. Os oes gennych unrhyw ymholiadau anfonwch e-bost atom.
Darparwyd gan: Flux Theatre
Oed 7 – 11