Gyda’n gilydd, byddwn yn creu hunanbortreadau lliwgar a hwyl, sy’n adlewyrchu ein gwir gymeriad. Byddwn yn defnyddio technegau amrywiol i greu ein hunanbortreadau, o ddarlunio a phaentio traddodiadol i ddulliau collage a marcio mwy annisgwyl. Dyma sesiwn ddwy awr llawn hwyl, crefftio ac ychydig o hunanfyfyrio hefyd. Ysbrydolwyd y gweithdy hwn gan bortreadau Aled Wyn Williams ar gyfer arddangosfa Trawsnewid.
Gyda’r artist Aled Wyn Williams
Project gan Amgueddfa Cymru ar gyfer pobl ifanc LHDTQ+ rhwng 16-25 oed yw Trawsnewid. Mae’n archwilio ffigurau queer ac anghydffurfwyr rhyw o fewn hanes Cymru ac yn cefnogi cyfranogwyr i greu gwaith wedi ei ysbrydoli gan eu profiadau eu hunain.
Llefydd cyfyngedig, archebwch eich tocyn am ddim drwy ein gwefan.