Astudiaeth o hunaniaeth a phresenoldeb hoyw mewn cymunedau cefnogwyr, ar-lein ac mewn cynadleddau, a pam fod cynifer o geeks hoyw yn y gymuned Gymreig queer yn benodol, a sut mae’n cynnal ei hun.
Gyda’r awdur Oska von Ruhland
Project gan Amgueddfa Cymru ar gyfer pobl ifanc LHDTQ+ rhwng 16-25 oed yw Trawsnewid. Mae’n archwilio ffigurau queer ac anghydffurfwyr rhyw o fewn hanes Cymru ac yn cefnogi cyfranogwyr i greu gwaith wedi ei ysbrydoli gan eu profiadau eu hunain.
Llefydd cyfyngedig, archebwch eich tocyn am ddim drwy ein gwefan.