Gŵyl Trawsnewid: Gweithdy Baneri Ffelt

11:00, 30 Gorffennaf 2022

Autosave-File vom d-lab2/3 der AgfaPhoto GmbH

Dyma weithdy i archwilio hanes gweledol a chymdeithasol baneri a chyfle i wneud eich baner ffelt cyffyrddol eich hun, wedi’i hysbrydoli gan y baneri sydd i’w gweld yn arddangosfa Trawsnewid.
Gyda’r artist Reg Arthyr

Project gan Amgueddfa Cymru ar gyfer pobl ifanc LHDTQ+ rhwng 16-25 oed yw Trawsnewid. Mae’n archwilio ffigurau queer ac anghydffurfwyr rhyw o fewn hanes Cymru ac yn cefnogi cyfranogwyr i greu gwaith wedi ei ysbrydoli gan eu profiadau eu hunain.

Llefydd cyfyngedig, archebwch eich tocyn am ddim drwy ein gwefan.