Gŵyl Trawsnewid: Meistroli Manglo

11:00, 24 Gorffennaf 2022

Yn ystod y sgwrs hon, byddwn yn edrych ar fyd collage, samplo a manglo creadigol. Mae gan Jake A Griffiths gefndir mewn troi deunydd archifol yn rhywbeth newydd, a bydd yn trafod athroniaeth y syniad. Byddwn yn defnyddio ysbrydoliaeth, dulliau ac unigoliaeth i ddysgu am bwysigrwydd manglo.

Gyda’r artist Jake A. Griffiths

Project gan Amgueddfa Cymru ar gyfer pobl ifanc LHDTQ+ rhwng 16-25 oed yw Trawsnewid. Mae’n archwilio ffigurau queer ac anghydffurfwyr rhyw o fewn hanes Cymru ac yn cefnogi cyfranogwyr i greu gwaith wedi ei ysbrydoli gan eu profiadau eu hunain.

Llefydd cyfyngedig, archebwch eich tocyn am ddim drwy ein gwefan.