Haf o Hwyl – Gwasg Argraffu – Cardiau Post

12:30, 28 Awst 2022

Am ddim

Cyn dyfeisio’r wasg argraffu, roedd rhaid ysgrifennu pob testun gyda llaw. O ganlyniad, roedd y ddyfais yma yn un o rhai mwyaf dylanwadol ei gyfnod.

Rhowch gynnig ar greu eich cerdyn post eich hun gan ddefnyddio gwasg ein Hamgueddfa, a’i bersonoli i’w anfon at rywun arbennig dros yr haf.

 

Mae’r gweithgareddau yma yn cael eu threfnu gan Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru fel rhan o fenter Haf o Hwyl, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.