Noson Swper GRAFT

18:00, 9 Medi 2022

£15

Ymunwch â ni yng ngardd gymunedol GRAFT ar 9 Medi fel rhan o Ŵyl Fwyd Sain Ffagan, am bryd o fwyd tymhorol wedi’i goginio yn ein popty tân coed a adeiladwyd gan y gymuned.

Byddwn yn croesawu cynhyrchwyr bwyd lleol, llysgenhadon a phrojectau cymunedol o’r ddinas ar gyfer gwledd go wahanol.

Ymysg y gwesteion bydd Vetch Veg, Matt’s Cafe, Summit Good, Room to Grow, Bwyd Abertawe, y ffermwr organig Gerald Miles, a’r ymchwilydd ac addysgwr bwyd Dee Woods.

Trwy’r noson bydd cerddoriaeth fyw, trafodaethau am gymuned a’r hinsawdd, a chyfle i ystyried y rhwydwaith fywiog o gynhyrchwyr a llefydd gwyrdd sy’n datblygu ar hyd a lled Abertawe. 
 
Beth yw dyfodol ein bwyd?  
Sut allwn ni greu system fwyd leol sy’n deg ac yn gynaliadwy? 
 
Wedi’i guradu gan Owen Griffiths gyda’r artist a’r cogydd Thom O’Sullivan 
Mwy o newyddion am ein gwesteion a cherddoriaeth fyw ar ein instagram a chyfryngau cymdeithasol 
Instagram @graft____ 

Tocynnau £15pp yn cynnwys bwyd ac un ddiod, (bar ar gael hefyd)