Taith Gerdded dros Wcráin

10:00, 20 Mawrth 2022

Cyfraniad

Taith gerdded dwy filltir o gwmpas pentref Parc-y-rhos ar fore Sul gan ddechrau o Gapel Bethel a gorffen yno hefyd i gael paned gyda’r bwriad o godi arian tuag at gymorth i Wcráin. Croeso cynnes i bawb. Dewch ynghyd am daith hamddenol, sgwrs a cyfle i ddangos cefnogaeth.