Daeth teithiau o gwmpas Gogledd Cymru yn ffasiynol yn ystod ail hanner y 18fed ganrif. Oherwydd nad oeddent yn gallu ymweld â chyfandir Ewrop, gwnaeth Saeson cyfoethog chwilio am leoliadau ym Mhrydain a oedd yn ddarluniadwy. Dechreuodd ysgrifenwyr ac artistiaid werthfawrogi mynyddoedd, rhaeadrau ac adfeilion Eryri, yn ogystal â’r ffyrdd tyrpeg a oedd newydd gael eu hadeiladu a’r rhwydwaith o westai.
Gwnaiff Mary Ann Constantine, Athro Astudiaethau Celtaidd yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd PCYDDS gyflwyno rhai o’r teithlyfrau a’r adroddiadau cysylltiedig gan deithwyr.
Caiff y digwyddiad hybrid hwn ei gynnal yn Llyfrgell y Sylfaenwyr, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Llambed, ac ar Microsoft Teams.
Gallwch ddod o hyd i’r ddolen ar gyfer archebu lle yma: https://teams.microsoft.com/registration/-REPTm4EBUWcuNshUjEeIQ,i5KWJtWu0kGSNU4I7dvx5Q,sSB67rrdyUqxtjT9eAOI0g,5xZf3u2vckOh2SjMuBBsoA,erBA9g88gk-xFII_UD00BA,y8SNEp42ZkyCAueTgIFlAg?mode=read&tenantId=4e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21.
Os hoffech chi archebu sedd yn Llambed, neu os hoffech chi wybod mwy, yna, anfonwch e-bost at specialcollections@uwtsd.ac.uk.