Triciau Mathemateg i Ffrwydro’ch Ymennydd

12:00, 6 Tachwedd 2022

Oedolion: £2.50 Plant: £2.50

Awr wyllt o fathemateg heriol, arddangosiadau rhyngweithiol a hiwmor drygionus gan y diddanwr a chyfathrebwr gwyddoniaeth sydd wedi ennill sawl gwobr, Kyle D Evans (enwebai sioe orau yng Ngŵyl Gomedi Caerlŷr 2020, enillydd digrifwr gorau Swindon Fringe 20018, enillydd Famelab UK 2016).

 

Treuliodd Kyle y cyfnod clo’n astudio posau mathemateg feirol, haciau a thriciau bywyd, ac wedi crynhoi ei ganfyddiadau i awr o adloniant crafu pen ond cynhwysol a difyr tu hwnt yn seiliedig ar fathemateg. 

 

Gallwch ddisgwyl jôcs, caneuon a llawer o fathemateg syfrdanol! Bydd cyfle hefyd i brynu llyfr wedi’i lofnodi gan Kyle ar ôl y sesiwn.

Sioe a ddarperir gan: Kyle Evans

Oed 12+