Wythnos Addysg Oedolion: Ysbrydoli Gweithgareddau Digidol gyda Chymunedau Digidol Cymru ac Amgueddfa Cymru

10:00, 17 Hydref 2022

Am ddim

Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i wahanol ddyfeisiau digidol a sut i’w defnyddio i archwilio hanes ar-lein a datblygu eich hyder digidol.

 

Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer oedolion o bob lefel gallu.

 

Byddwn yn:
• Archwilio a dod i afael â dyfeisiau digidol gan gynnwys tabledi
• Dangos sut i ddefnyddio offer digidol o ddydd i ddydd i archwilio’r we i ddarganfod mwy am hanes Cymru ac Amgueddfeydd Cymru.
• Trafod sut i gael mynediad at gynnwys dysgu ar y we i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol a’ch hyder.

 

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg