Bydd Bois y Gilfach o ganol Ceredigion a Chôr Tonic o Gaerfyrddin yn cyflwyno Atgof o’r Sêr gan Robat Arwyn mewn cyngerdd nos Sadwrn, 2 Rhagfyr 2023 am 7.30pm yn Neuadd y Celfyddydau, Coleg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llambed. Mae’r tocynnau (sy’n £10 yr un) ar gael drwy Theatr Felinfach (theatrfelinfach.cymru / 01570 470697) a bydd holl elw’r noson yn mynd i Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.