Ffair Werdd

10:00, 19 Tachwedd 2023

Am ddim

Popeth ar gyfer Nadolig Gwyrdd – anrhegion, syniadau a chyngor!

 

Bydd y Ffair Werdd yn llawn nwyddau organig, masnach deg, wedi’u hailgylchu neu eu cynhyrchu’n lleol, neu sy’n ystyriol o’r amgylchedd.

 

Bydd rhywbeth at ddant pawb yn y 40 a mwy o stondinau, yn barod i’ch rhoi chi i gyd yn hwyl yr ŵyl.

 

Mae’r Ffair Werdd wedi bod yn cefnogi cynhyrchwyr a chrefftwyr lleol a moesegol yn Abertawe ers 1983.

 

Mae gwerthwyr yn ffeiriau’r gorffennol wedi cynnig addurniadau Nadolig cartref, cardiau a phrintiau gwreiddiol, gemwaith unigryw, bagiau prydferth, danteithion blasus a llawer mwy!

 

Cynhelir y Ffair Werdd mewn partneriaeth â Chanolfan yr Amgylchedd, Abertawe.

https://www.environmentcentre.org.uk/green-fair