Antur fwytadwy fythgofiadwy gyda Gastronot y BBC, Stefan Gates.
Bydd taflu tân a bwyd, fferins rhyfedd, siocled wedi’i orchuddio ag aur, trychfilod byw, rocedi, blasau bwyd anghyffredin ac arddangosiadau treulio rhyfedd iawn!
Mae Stefan Gates yn enwog am ei sioeau gwyddoniaeth a bwyd o safon ryngwladol.
Sylwer – Mae’r sioe hon yn cynnwys synau mawr a chleciau! Addas i bawb, oedran 6+ oed
(Bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.)