PRIDE Cornel y Siaradwyr: Hanesion Cwiar o Gymru

13:00, 29 Ebrill 2023

Am Ddim

(c) National Museum of Wales / Amgueddfa Cymru; Supplied by The Public Catalogue Foundation

Dwy stori’n cael eu hadrodd gan Jane Hoy 

1pm – John a Penry: stori wir dau Gymro yn Rhufain

Bachgen tlawd o Gonwy oedd John Gibson, a ddaeth yn gerflunydd byd-enwog. ⁠Bachgen tlawd o Ferthyr oedd Penry Williams, a ddaeth yn arlunydd llwyddiannus. Dyma stori eu bywyd gyda’i gilydd yn Rhufain yn y 1840au.

 2pm – Brenhines y Llyn

“Cadarn yw’r merched caled eu llafurioGyda dwrn gallant daro’r dyn sy’n eu tramgwyddo”Dyma stori ryfeddol Marged ferch Ifan a merch y Gwaith Copr, yn ardal Llanberis oddeutu’r 1780au. Gyda chacennau cri. 

Gwybodaeth

Jane Hoy a Helen Sandler yw QTW. Maent wedi teithio dros Gymru a Lloegr gyda straeon difyr am gymeriadau cwiar o hanes Cymru. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am Aberration, sefydliad diwylliant a chelfyddydau LHDTC+ yn Aberystwyth. www.aberration.org.uk/queer-tales-from-wales.