Y Sefydliad Brenhinol yn cyflwyno… Celloedd Clyfar

14:00, 29 Hydref 2023

£3 y pen

Beth sy’n ein gwneud ni’n sâl?

Pam fod pob un ohonon ni’n sâl weithiau?

Dilynwch gyflwynydd yr RI ar daith yn ddwfn i’n celloedd i weld sut mae bacteria a firysau yn ymosod ar ein cyrff ac yn ceisio cymryd drosodd, ac yn bwysicach, sut allwn ni ymladd nôl? 

O feddyginiaeth hynafol i wyrthiau modern, byddwn ni’n dangos sut mae gwyddoniaeth yn cefnogi a gwella amddiffynfeydd naturiol ein cyrff. O’r gwrthfiotig a’r brechlyn, i ddyfodol lle gallwn ni hyfforddi’r corff i wella o unrhyw afiechyd bron!

Sylwer – Mae’r sioe hon yn cynnwys synau mawr a chleciau!

Addas i bawb, oedran 7+ oed    
(Bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.)