Sioe y Môr

10:30, 29 Hydref 2023

Am ddim

10.30am – Iaith – Cymraeg

11.30am – Iaith – Saesneg

Ymunwch â ni ar daith sy’n mynd â ni o’r riffiau cwrel deniadol i’r dyfnderoedd tywyll tanodd, lle byddwn ni’n gweld pysgod sy’n goleuo yn y tywyllwch a llwythi o greaduriaid rhyfedd ar y ffordd.

 Gyda dros 70% o arwyneb ein planed wedi’i orchuddio gan gefnfor byd-eang anferth, mae’n rhan hynod bwysig o ecosystem y ddaear ac yn llawn bywyd.

Cawn ddysgu mwy am y ffordd mae ein moroedd yn newid a beth allwn ni gyd ei wneud i helpu i warchod yr amgylchedd tanddwr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Sylwer – Mae’r sioe hon yn cynnwys synau mawr a chleciau!

Cyflwynwyd gan Techniquest 

Addas i bawb, oedran 5+ oed

Nodwch: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.