Estynnir gwahoddiad cynnes i chi gymryd rhan yn Stiwdio Straeoni Arts4wellbeing ar gyfer “Taith Dyffryn Teifi” yn Neuadd Tysul, Llandysul.
Digwyddiad am ddim i’r cyhoedd gyda gweithgareddau creadigol i bobl o bob oed, wedi’u cynllunio i annog sgwrs:
Atgofion am eiliadau hudolus a dreuliwyd ar eich pen eich hun, gydag anwyliaid, gyda theulu, gyda ffrindiau.
Meddyliau, syniadau ac awgrymiadau am yr hyn a fyddai’n bosibl efallai er mwyn cysylltu ein holl gymunedau ar hyd Taith Dyffryn Teifi o’i Ffynhonnell i’r Môr.
Dewch am 5 munud neu 10 munud neu arhos am y penwyhnos cyfan!
Dydd Sadwrn 25 a dydd Sul 26 Mawrth, 10.30yb – 3.30yp
E-bost mike@arts4wellbeing.co.uk E-bost sara@arts4wellbeing.co.uk
Am fwy wybodaeth am TAITH DYFFRYN TEIFI ewch i’r wefan, cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr e-bost a dilynwch ar Facebook.
Llwybr newydd cyffrous 75 milltir o hyd yw Taith Dyffryn Teifi (TDT) sy’n dilyn llwybrau’r Afon Teifi o’i tharddiad i’r môr. Mae TDT yn cysylltu dau abaty â’i gilydd (Ystrad Fflur a Llandudoch) ac yn cysylltu pentrefi, melinau a threfydd marchnad ar hyd Dyffryn Teifi.