Christine James yn cyflwyno rhai o’i cherddi

20:00, 20 Mehefin

CHRISTINE JAMES YN CYFLWYNO RHAI O’I CHERDDI

Dewch i wrando ar y cyn-Archdderwydd Christine James yn cyflwyno rhai o’i cherddi nos Iau, 20 Mehefin 2024, am 8.00pm, yng nghapel y Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, CF14 1DD. Bydd te/coffi a bisgedi ar gael o 7.30pm ymlaen.

Dan nawdd Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd ac yn rhan o Ŵyl yr Eglwys Newydd a Thongwynlais.

Yn rhad ac am ddim. Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw. Croeso cynnes i bawb.

Gellir gwylio’r cyfarfod hefyd ar sianel YouTube yr Eglwys: https://www.youtube.com/c/CwmpawdCaerdydd 

Manylion pellach: gwybodaeth@cwmpawd.org