Bydd Ysgol Gerdd Ceredigion dan arweiniad Islwyn Evans yn cynnal cyngerdd yn Neuadd Goffa Talgarreg ar nos Wener 15fed o Dachwedd am 7yh.
Mae’r côr hwn o blant a phobl ifanc yn adnabyddus iawn ers blynyddoedd. Eleni, enillon nhw gategori plant Côr Cymru ac yn ddiweddar bu’r côr yn serennu yng nghyngerdd fawreddog ‘Simffoni Mara’ yn Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi.
£10 yr oedolyn (plant am ddim) wrth y drws. Dewch yn llu.