Ymunwch a ni yng ngardd GRAFT yr amgueddfa am brynhawn arbennig I ddathlu Diwrnod y Ddaear
Yn cynnwys:
- 1 – 2pm Cyfnewid Hadau a Hadblanhigion – gyda GRAFT, Incredible Seed Library a Wales Seed Hub. Cyfnewidiwch eich hadau eich hun neu cyfranwch at y casgliad.
- 2yp – Sgwrs – Seeds to share – How to save Open Pollinated seeds, Ymunwch a Maggie Carr o gwmpas y tan (Incredible Seed Library a Wales Seed Hub)
- 1 – 3yp Sesiwn Gwneud a Chymryd i Blant– plannwch hadau blodau’r haul mewn pot eco-gyfeillgar wedi ei wneud a llaw.
- 1 – 3yp – GRAFT Bach – ar gyfer plant bach. Bydd Cae Tan yn arwain chwarae dan arweiniad plant i archwilio a chysylltu â natur. Mae Graft Bach yn gobeithio ysbrydoli teuluoedd i dreulio mwy o amser gyda’u gilydd y tu allan a sbarduno diddordeb mewn tyfu bwyd cynaliadwy.
- 1 – 3yp – Gwenyn GRAFT – Dewch i gwrdd â gwenynwr GRAFT Alysson Williams a fydd yn rhannu ei gwybodaeth epig am wenyn. Mae Alysson hefyd yn rhedeg rhaglen sy’n dysgu sgiliau gwerthfawr i bobl ifanc wrth ofalu am y gwenyn sydd wedi’u lleoli yng Ngardd GRAFT.
Os bydd y tywydd yn wlyb gallwn fynd â’r gweithgareddau y tu mewn i’r amgueddfa.