Drag Queen Story Hour UK

11:00, 17 Chwefror

Am ddim (ond angen archebu tocyn)

Rydyn ni mor gyffrous i gyhoeddi y bydd @DragQueenStoryHourUK yn ymuno â ni!! 

Bydd Aida H Dee – The Storytime Drag Queen yn darllen straeon anhygoel mewn sioe amser stori gyffrous, jyst i ni!  

Mae Aida yn noddwr Autistic Inclusive Meets London, yn awdur proffesiynol, yn act pum seren Gŵyl Ffrinj Caeredin ac wedi ei chynnwys yng nghylchgrawn Forbes am weithredu ar ran niwroamrywiaeth. I glywed mwy amdani hi a Drag Queen Story Hour UK, ewch i’w gwefan: 

www.dragqueenstoryhour.co.uk 

Mae’r digwyddiad yn cyd-fynd â lansiad Arddangosfa ‘Ein Straeon’ yn Oriel y Wal Goch sy’n adrodd straeon rhai pobl LHDTQIA+ sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. 

Tocynnau – Talu Beth Gallwch