Dyddiau Dawns

11:00, 2 Mehefin

Am ddim

Dewch i fwynhau gŵyl ddawns flynyddol Abertawe am ddim yr haf hwn wrth i Taliesin ddod â pherfformwyr o bob cwr o’r DU a thu hwnt at ei gilydd gyda grwpiau dawns lleol, mewn gŵyl ddawns o safon ryngwladol.
Cynhelir yr ŵyl yn yr Amgueddfa ac o’i chwmpas, gyda rhaglen sy’n cynnwys perfformiadau bendigedig o ddawns draddodiadol, gyfoes, syrcas a street mewn gofodau annisgwyl.

Dewch o hyd i fanylion llawn yr ŵyl ar wefan Dyddiau Dawns 

Cynnwys:

Timisien – 30|05|24 – 02|06|24 , 10am – 6pm

Dewch i mewn i ddrysfa lachar o lwybrau troellog a chromenni uchel.

Mae Timisien, sy’n gofadail i harddwch goleuni a lliw, yn wledd i’r synhwyrau. Cewch eich cipio i fyd arall o gromenni fel ogofeydd, twneli a phodiau, sydd mor fawr â hanner cae rygbi, gan greu ymdeimlad o ryfeddod a hudoliaeth i bob oedran.