Ymunwch â ni i wylio ffilm arbennig yn yr oriel ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost.
Dewiswyd y ffilm am ei bod yn ymgorffori thema’r cofio yn 2024, Breuder a Rhyddid.
Stori wir yw The Silent Village, hanes cyflafan gan y Natsïaid mewn pentref bach yn Czechia wedi’i hailddweud yng Nghymru.
Mae’r ffilm yn dilyn bywyd trigolion Cwmgïedd ger Ystradgynlais yn ne orllewin Powys. Mewn Prydain a gafodd ei goresgyn gan y Natsïaid ym 1940, mae’r gymuned yn dioddef yr un gormes a dinistr a welwyd yn Lidice flwyddyn ynghynt. Fe welwn ni’r glowyr yn sefyll yn gadarn i warchod y rhai oedd yn mynnu gwrthsefyll, gan ennyn dicter yr awdurdodau a golygfeydd dirdynnol o fenywod a phlant yn cael eu tynnu i ffwrdd wrth i’r dynion gael eu saethu dan ganu Hen Wlad fy Nhadau.
Does dim trais amlwg yn y ffilm, a welwn ni ddim o’r awdurdodau ond yr un car du sgleiniog. Mae’r ffilm yn cloi gyda golygfeydd o fywyd fel ag yr oedd yng Nghwmgïedd ym 1942/1943, ond yn esbonio i’r gynulleidfa y perygl gwirioneddol a’r canlyniadau petai Prydain yn cwympo i’r Natsïaid.
Doedd dim actorion proffesiynol yn y ffilm, a dim deialog wedi’i sgriptio.
Cyn y ffilm bydd cyflwyniad dan arweiniad sefydliad Josef Herman.