Gweithdy Celf Graffiti

10:30, 29 Mai

£9.50

Rydyn ni’n hynod falch o groesawu’r artist murluniau a graffiti Karim Kamil (@skateranddecorator) i arwain y gweithdai arbennig hyn dros hanner tymor. Karim yw’r artist dawnus a wnaeth yr ail-ddyluniad anhygoel diweddar o’r cynhwysydd yng ngardd GRAFT yr Amgueddfa. Dyma beth i’w ddisgwyl!

  • Cyflwyniad i hanes graffiti / celf stryd
  • Dysgu technegau llythrennu graffiti sylfaenol, a sut i ddefnyddio paent chwistrell a’i gwahanol dechnegau.
  • Cymryd ysbrydoliaeth o’r ardd ar gyfer sesiwn fraslunio graffiti ar bapur yn barod i’w baentio.
  • Chwistrellu paent! (ar ôl gwisgo masgiau a menig, a chamu i’r awyr iach).  Byddwch chi’n creu darn ar y cyd ar fyrddau mawr yn yr ardd.
  • Gorffen drwy greu tag/stensil i fynd adref gyda chi.

Pethau pwysig i’w nodi:Oed – Rhaid bod dros 8 oedGwarchodwyr – Rhaid bod gwarchodwr 18+ yn bresennol drwy gydol y gweithdyDillad – Gwisgwch hen ddillad does dim ots gyda chi eu trochiHyd – Tua 2 awrCyfarpar – Bydd masgiau a menig yn cael eu darparu i bawbRhaid gweithio yn yr awyr agored, felly os yw’r tywydd yn wael bydd angen gohirio’r gweithdy.