Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Taith o oriel ‘Gwnaed yng Nghymru’ wedi’i arwain gan Guradur a ses

10:00, 28 Tachwedd

Am ddim

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wrth i ni archwilio rhai o’r gwrthrychau yn ein oriel ‘Gwnaed yng Nghymru’ a’r casgliad trin a thrafod. Ar ôl hyn bydd sesiwn drwmio, wedi’i arwain gan One Heart Drummers. 

Oriel ‘Gwnaed yng Nghymru’: Gwnaed yng Nghymru | Museum Wales 

Bydd y sesiwn yn cynnwys: 

  • Croeso cynnes
  • Cyfle i grwydro a mwynhau un o’r orielau a chasgliadau
  • Cyfle i fwyhau gweithgaredd creadigol ysgafn
  • Diod gynnes a sgwrs 

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae’r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth. 

Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. 

Mae’r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy’n byw gyda dementia ac sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia

Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu Tocynnau’ i’r dde. Neu gallwch chi ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. 

Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio’n broblem. 

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.