Gwyddoniaeth ffilmiau Jurassic World

11:00, 27 Hydref

£3yp

Dwlu ar ddeinosoriaid?

Dyma’r union sioe i chi! 

Ymunwch â’r awdur a’r cyflwynydd gwyddoniaeth, Jon Chase, am archwiliad difyr o’r wyddoniaeth y tu ôl i’r ffilmiau poblogaidd a helpodd i newid y ffordd rydyn ni’n gweld deinosoriaid.

Gyda digonedd o ruo a rapio a ffeithiau di-ri am ddeinosoriaid; dyma hwyl i’r teulu cyfan!

Jon Chase yw cyd-awdur The Science of Jurassic World

Rydyn ni’n falch o groesawu BSL i ddehongli’r sioe hon.

Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.

Cynnig arbennig – Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau lle codir tâl yn eich basged docynnau i arbed 30%!

Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe – Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)