Gwyddoniaeth am y gorau! gyda Big Manny

13:30, 27 Hydref

£3yp

Iawn BŴM! 

Ymunwch â’r seren TikTok Big Manny, wrth iddo drafod ei lyfr sydd ar y gweill, Science is Lit. 

Dysgwch sut i fod yn wyddonydd go iawn a chreu arbrofion anhygoel gartref gan ddefnyddio cynhwysion cyffredin.

Dewch i edrych ar fyd gwyllt asidau ac alcalïau, a chymryd rhan mewn cwis gwyddoniaeth llawn hwyl dan arweiniad Manny.

Hefyd, bydd cyfle i wylio un o’i arbrofion yn fyw o flaen eich llygaid.

Bydd modd cael llyfr wedi’i lofnodi gyda’r awdur ar ôl y sioe hon.

Bydd llyfrau ar gael i’w prynu o siop anrhegion yr Amgueddfa.

Hyd 45 – 60 munud 

Hanes Manny: Mae Emanuel Wallace (“Big Manny”) yn grëwr cynnwys gwyddoniaeth ac artist cerddoriaeth 26 oed sy’n llwyddo i wneud y tabl cyfnodol a llosgwyr Bunsen yn cŵl unwaith eto.

Gyda gradd meistr mewn gwyddoniaeth biofeddygol, mae Manny yn creu cynnwys addas i bob oed a chefndir, sy’n ddifyr, addysgol, ac arbrofol.

Mae gan Manny 3.5 miliwn o ddilynwyr ar TikTok ac Instagram gyda’i gilydd, wedi ymddangos ar Blue Peter ac mae’n cydweithio’n rheolaidd â BBC Bitesize. 

Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon. 

Cynnig arbennig – Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau lle codir tâl yn eich basged docynnau i arbed 30%!