Nos Iau a nos Wener 25 a 26 o Ebrill cynhelir Gŵyl Ddrama Y Groeslon am 7 o’r gloch. Y beiriniad eleni yw Marlyn Samuel a bydd pedwar cwmni drama yn cystadlu am Dlws Coffa Dr John Gwilym Jones.
Ar y nos Iau Cwmni Drama Brynrhos a Chwmni Drama Licris Olsorts o ardal Talybont, Aberystwyth fydd ar y llwyfan, gyda Chwmni Drama Plant Afradlon a Chwmni Drama Dinas Mawddwy ar y nos Wener.
Edrychir ymlaen am ddwy noson ddifyr o adloniant. Croeso cynnes i bawb.