RAY MEARS – Remote People & Remote Places, The Search for Hope in the Wilderness.

16:00, 27 Hydref

£4 yp

Does neb yn adnabod y diffeithwch yn well na Ray Mears.

‘Beth yw diffeithwch?’, Pam y mae mor bwysig?

Efallai bydd y cyflwyniad llawn ysbrydoliaeth hwn yn newid eich barn am y byd am byth….

Ar ôl treulio mwy na deugain mlynedd yn archwilio pellafoedd ein planed, mae Ray Mears yn esbonio sut mae wedi cael ei newid gan y bobl y mae wedi cwrdd â nhw a’r lleoedd mae wedi ymweld â nhw.

Beth yw ystyr diffeithwch iddo a pham y mae’n meddwl ei fod yn hollbwysig ar gyfer ein dyfodol‘In wilderness there is hope’ Ray Mears

Hyd 45 – 60 munud

Archebwch lyfr diweddaraf Ray, ‘British Woodlands’, ymlaen llaw a bydd yn hapus i’w lofnodi i chi.

Bydd modd cael llyfr wedi’i lofnodi gyda’r awdur ar ôl y sioe hon.Bydd llyfrau ar gael i’w prynu o siop anrhegion yr Amgueddfa. 

Bywgraffiad – Mae Ray Mears yn siaradwr cymhellol, yn ffotograffydd ac yn gyflwynydd teledu.

Mae Ray Mears wedi’i gydnabod fel arbenigwr blaenllaw ar sgiliau byw yn y gwyllt a goroesi.

Ym 1983 sefydlodd Ray ‘Woodlore’, ysgol anialdir a byw yn y gwyllt gyntaf Prydain. Gweledigaeth Ray oedd rhoi cyfle i eraill gamu y tu hwnt i hyfforddiant goroesi a meistroli sgiliau traddodiadol teithio yn y gwyllt.

Mae’n fwyaf adnabyddus am y cyfresi teledu Ray Mears Bushcraft, Ray Mears World of Survival, Wilderness Walks, Extreme Survival, Wild Britain gyda Ray Mears, Wild China a Real Heroes Telemark.

Yn 2010, gofynnodd Heddlu Northumbria am gymorth Ray i ganfod y llofrudd Raoul Moat oedd ar ffo. 

Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon. 

Cynnig arbennig – Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau lle codir tâl yn eich basged docynnau i arbed 30%!

Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe – Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)