Noson Swper GRAFT

18:30, 19 Mehefin 2024

£15 y pen

Refugee Week Supper

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal ein noson Swper gyntaf yn 2024 i ddathlu rhai o’n partneriaid anhygoel!

Ymunwch â ni am noson hafaidd arbennig yn ein Hamgueddfa hardd.

…Mwynhewch wledd dymhorol flasus wedi’i pharatoi gan ein partneriaid coginiol cymunedol – Unified Flavours, wedi’u mentora gan The Shared Plate , ac yn defnyddio cynnyrch wedi’i dyfu yn un o nifer o wlâu yr ardd.

…Dathlwch lansiad y llyfr Community Flavours.

…Mwynhewch sioe ffasiwn fawreddog a rhowch gynigion ar eitemau ocsiwn cyffrous i helpu i godi arian ar gyfer The Women’s Group

Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad arbennig hwn!

(Bydd y digwyddiad hwn yn symud dan do yn yr Amgueddfa mewn tywydd gwael)

Tocynnau £15 y pen